Go brin y byddai dinesydd Cymreig wedi dychmygu, ym mis Mawrth 1979, y byddai gennym Senedd a phwerau deddfu o fewn tri deg mlynedd, a mwyafrif o etholwyr Cymru wedi dweud 'Ie' dros ddatganoli a 'Ie' pellach dros ehangu pwerau'r Cynulliad a gr???wyd. Go brin y buasai wedi dychmygu'r newidiadau a welwyd yng Nghymoedd De Cymru ac ardal chwareli'r gogledd, y byddai cannoedd o dai haf wedi eu llosgi gan genedlaetholwyr Cymraeg, y byddai pryder cynyddol dros newid hinsawdd, a go brin y credai cymaint o lanw ieithyddol a welwyd ...
Read More
Go brin y byddai dinesydd Cymreig wedi dychmygu, ym mis Mawrth 1979, y byddai gennym Senedd a phwerau deddfu o fewn tri deg mlynedd, a mwyafrif o etholwyr Cymru wedi dweud 'Ie' dros ddatganoli a 'Ie' pellach dros ehangu pwerau'r Cynulliad a gr???wyd. Go brin y buasai wedi dychmygu'r newidiadau a welwyd yng Nghymoedd De Cymru ac ardal chwareli'r gogledd, y byddai cannoedd o dai haf wedi eu llosgi gan genedlaetholwyr Cymraeg, y byddai pryder cynyddol dros newid hinsawdd, a go brin y credai cymaint o lanw ieithyddol a welwyd yn y de-ddwyrain a chymaint o drai a welwyd yn y cadarnleoedd traddodiadol. Ond, dyna ddigwyddodd. Gweddnewidiwyd Cymru, ac eto, arhosodd nifer o bethau yr un peth. Drwy gydol y cyfnod, bu'r beirdd yn arsylwi, archwilio, cyfranogi a byw brwydrau Cymru. Yn canu clodydd ei harwyr ac yn dychanu ei dihirod. Yn wyneb bob anobaith a dadrithiad, roedd creadigrwydd, a chafwyd llawenhau gyda bob buddugoliaeth. Yn ystod y cyfnod, closiodd beirdd at eu cynulleidfa drwy boblogeiddio barddoniaeth lafar mewn nosweithiau mewn clybiau a thafarndai. Roedd y genhedlaeth a ddaeth i amlygrwydd yn y nosweithiau yma yn wleidyddol, a chynhwyswyd nifer o'u cerddi nhw yma. Ceir cynrychiolaeth o farddoniaeth y Beirdd Answyddogol, beirdd y Talwrn a beirdd sefydliadol, beirdd hen ac ifanc fel ei gilydd. Er bod mwyafrif beirdd Cymru yn genedlaetholgar, adain chwith ac yn aml yn canolbwyntio ar barhad yr iaith a'i chymunedau, mae lleisiau amrywiol, heriol a gwahanol i'w clywed. Mae'r farddoniaeth hefyd yn dangos cysgod mor eang y mae digwyddiadau gwleidyddol ein gorffennol yn ei fwrw dros ein hymateb i wleidyddiaeth heddiw. Mae ein cof cymdeithasol am Dryweryn, Streic y Penrhyn a Phenyberth, heb s???n am Lywelyn a Glyndwr yn cyflyru ein hagweddau at yr hyn a ddigwyddodd inni dros y blynyddoedd diwethaf. Nod y gyfrol hon yw tynnu ynghyd enghreifftiau o farddoniaeth y tri degawd diwethaf er mwyn ceisio cofnodi ymateb beirdd Cymru i ddigwyddiadau gwleidyddol m???n a mawr y genedl. Ynddi mae cyfoeth, miniogrwydd, cymhlethdod, hwyl, hyder a gobaith ein llenyddiaeth hen i'w gweld yn glir.
Read Less